Ofcom is today inviting people who use British Sign language (BSL) to tell them what they think about signing on TV and video-on-demand services.

The survey aims to find out how often BSL users watch signed programmes, the types of programmes they watch, and what they think of the quality and availability of signed programmes.

The feedback received will be crucial in helping to inform Ofcom guidelines on signing for TV channels and on-demand services – including what types of programmes should be prioritised.

They would like to hear from people who:

  • are over 16 and use BSL to communicate;
  • live with someone over 16 who uses BSL to communicate; or
  • have a child under 16 who uses BSL to communicate.

People with more than one BSL user in their household can complete one survey for each BSL user.

Participants can respond through an online BSL-interpreted survey, or by sending us a video of them signing their response.

The survey is open until Thursday 1 July.


Dwedwch eich barn wrthym am Iaith Arwyddion Prydeinig ar sianeli teledu ac ar wasanaethau ar-alw

Heddiw mae Ofcom yn gwahodd pobl sy’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydeinig (BSL) i roi eu barn i ni am arwyddo ar y teledu ac ar wasanaethau fideo ar-alw.

Nod ein harolwg yw darganfod pa mor aml y mae defnyddwyr BSL yn gwylio rhaglenni sy’n cynnwys arwyddo, y mathau o raglenni y maent yn eu gwylio a beth yw eu barn am ansawdd ac argaeledd rhaglenni sydd wedi’u harwyddo.

Bydd yr adborth a gawn yn hollbwysig wrth helpu cyfeirio ein canllawiau ar arwyddo ar gyfer sianeli teledu a gwasanaethau ar-alw – gan gynnwys pa fathau o raglenni y dylid eu blaenoriaethu.

Hoffen ni glywed gan bobl sydd:

  • dros 16 oed ac yn defnyddio BSL i gyfathrebu;
  • yn byw gyda rhywun dros 16 oed sy’n defnyddio BSL i gyfathrebu; neu
  • sydd â phlentyn o dan 16 oed sy’n defnyddio BSL i gyfathrebu.

Gall pobl sydd â mwy nag un defnyddiwr BSL yn eu haelwyd gwblhau un arolwg ar gyfer pob defnyddiwr BSL.

Gall cyfranogwyr ymateb trwy arolwg ar-lein a ddehonglir trwy BSL, neu drwy anfon fideo ohonynt yn arwyddo eu hymateb atom.

Mae’r arolwg ar agor tan ddydd Iau 1 Gorffennaf.